Pererin
Llwybr Cadfan
Dilynwch ôl troed Cadfan Sant ar bererindod gyfoes dros ddeuddeg diwrnod o Dywyn i Ynys Enlli. Cewch gyfle i ymweld ag eglwysi anghysbell, cerdded drwy fforestydd glaw o goed derw hynafol ac ar hyd traethau llydan wrth i chi ddarganfod mwy am y sant hwn o’r chweched ganrif ar eich taith i ynys gysegredig Enlli.
Llwybr Cybi a Seiriol
Mae Llwybr Cybi a Seiriol yn eich tywys ar daith bum niwrnod fythgofiadwy ar draws Ynys Môn – o dref harbwr hanesyddol Caergybi i benrhyn gwyllt ac anghysbell Penmon. Dilynwch yn ôl traed dau sant, Cybi a Seiriol, a gerddodd yr ynys hon bedair canrif ar ddeg yn ôl.
Croeso i Pererin
Mae Pererin yn bererindod wedi’i hail-lunio ar gyfer y byd modern – yn wahoddiad i arafu, myfyrio ac ailgysylltu â’r hyn sy’n wirioneddol bwysig. Gwahoddiad i ddilyn ôl traed seintiau wrth i chi deithio ar hyd llwybrau hynafol a thrwy dirweddau godidog Gogledd Orllewin Cymru.





